Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 3:12-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi gerbron yr Arglwydd.

13. A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch.

14. Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i'r Arglwydd; sef y weren fol, a'r holl wêr a fyddo ar y perfedd;

15. A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â'r arennau, a dynn efe ymaith.

16. A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw. Yr holl wêr sydd eiddo yr Arglwydd.

17. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau yn eich holl anheddau, yw: na fwytaoch ddim gwêr, na dim gwaed.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 3