Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 23:31-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Na wnewch ddim gwaith. Deddf dragwyddol, trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, yw hyn.

32. Saboth gorffwystra yw efe i chwi; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o'r mis, yn yr hwyr: o hwyr i hwyr y cedwch eich Saboth.

33. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd.

34. Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis hwn y bydd gŵyl y pebyll saith niwrnod i'r Arglwydd.

35. Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch.

36. Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i'r Arglwydd: ar yr wythfed dydd y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i'r Arglwydd: uchel ŵyl yw hi; na wnewch ddim caethwaith.

37. Dyma wyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, i offrymu i'r Arglwydd aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd‐offrwm, aberth, a diod‐offrwm; pob peth yn ei ddydd:

38. Heblaw Sabothau yr Arglwydd, ac heblaw eich rhoddion chwi, ac heblaw eich holl addunedau, ac heblaw eich holl offrymau gwirfodd, a roddoch i'r Arglwydd.

39. Ac ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, pan gynulloch ffrwyth eich tir, cedwch ŵyl i'r Arglwydd saith niwrnod: bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf, a gorffwystra ar yr wythfed dydd.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 23