Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 23:17-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A dygwch o'ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan, dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant: yn lefeinllyd y pobi hwynt, yn flaenffrwyth i'r Arglwydd.

18. Ac offrymwch gyda'r bara saith oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, ac un bustach ieuanc, a dau hwrdd: poethoffrwm i'r Arglwydd fyddant hwy, ynghyd â'u bwyd‐offrwm a'u diod‐offrwm; sef aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

19. Yna aberthwch un bwch geifr yn bech‐aberth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd.

20. A chyhwfaned yr offeiriad hwynt, ynghyd â bara'r blaenffrwyth, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd, ynghyd â'r ddau oen: cysegredig i'r Arglwydd ac eiddo'r offeiriad fyddant.

21. A chyhoeddwch, o fewn corff y dydd hwnnw, y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragwyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenedlaethau, fydd hyn.

22. A phan fedoch gynhaeaf eich tir, na lwyr feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhaeaf; gad hwynt i'r tlawd a'r dieithr: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

23. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

24. Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi Saboth, yn goffadwriaeth caniad utgyrn, a chymanfa sanctaidd.

25. Dim caethwaith nis gwnewch; ond offrymwch ebyrth tanllyd i'r Arglwydd.

26. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

27. Y degfed dydd o'r seithfed mis hwn, y bydd dydd cymod; cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymwch ebyrth tanllyd i'r Arglwydd.

28. Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw: oherwydd dydd cymod yw, i wneuthur cymod drosoch gerbron yr Arglwydd eich Duw.

29. Canys pob enaid a'r ni chystuddier o fewn corff y dydd hwn, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

30. A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 23