4. Hefyd pan offrymech fwyd‐offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a fydd.
5. Ond os bwyd‐offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew.
6. Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd‐offrwm yw.
7. Ac os bwyd‐offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew.
8. A dwg i'r Arglwydd y bwyd‐offrwm, yr hwn a wneir o'r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor.
9. A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o'r bwyd‐offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.
10. A bydded i Aaron ac i'w feibion weddill y bwyd‐offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.
11. Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd‐offrwm a offrymoch i'r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i'r Arglwydd.
12. Offrymwch i'r Arglwydd offrwm y blaenffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.
13. Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy Dduw o fod ar dy fwyd‐offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti.
14. Ac os offrymi i'r Arglwydd fwyd‐offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o'r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd‐offrwm dy ffrwythau cyntaf.
15. A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd‐offrwm yw.
16. A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o'i ŷd wedi ei guro allan, ac o'i olew, ynghyd â'i holl thus: offrwm tanllyd i'r Arglwydd yw.