41. Ac os o du ei wyneb y syrth gwallt ei ben, efe a fydd talfoel; eto glân fydd efe.
42. Ond pan fyddo anafod gwyngoch yn y penfoeledd neu yn y talfoeledd; gwahanglwyf yw efe yn tarddu yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef.
43. Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os bydd chwydd yr anafod yn wyngoch, yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef, fel gwelediad gwahanglwyf yng nghroen y cnawd;
44. Gŵr gwahanglwyfus yw hwnnw, aflan yw; a'r offeiriad a'i barna ef yn llwyr aflan: yn ei ben y mae ei bla.
45. A'r gwahanglwyfus yr hwn y byddo pla arno, bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo, a'i ben yn noeth, a rhodded gaead ar ei wefus uchaf, a llefed, Aflan, aflan.
46. Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno, bernir ef yn aflan: aflan yw efe: triged ei hunan; bydded ei drigfa allan o'r gwersyll.
47. Ac os dilledyn fydd â phla gwahanglwyf ynddo, o ddilledyn gwlân, neu o ddilledyn llin,
48. Pa un bynnag ai yn yr ystof, ai yn yr anwe, o lin, neu o wlân, neu mewn croen, neu mewn dim a wnaed o groen;
49. Os gwyrddlas neu goch fydd yr anafod yn y dilledyn, neu yn y croen, neu yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen: pla'r gwahanglwyf yw efe; a dangoser ef i'r offeiriad.
50. Ac edryched yr offeiriad ar y pla; a chaeed ar y peth y bo y pla arno, saith niwrnod.