Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 11:9-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Hyn a fwytewch o bob dim a'r sydd yn y dyfroedd: pob peth y mae iddo esgyll a chen, yn y dyfroedd, yn y moroedd, ac yn yr afonydd; y rhai hynny a fwytewch.

10. A phob dim nid oes iddo esgyll a chen, yn y moroedd, ac yn yr afonydd, o bob dim a ymsymudo yn y dyfroedd, ac o bob peth byw, y rhai fyddant yn y dyfroedd; byddant ffiaidd gennych.

11. Byddant ffiaidd gennych: na fwytewch o'u cig hwynt, a ffieiddiwch eu burgyn hwy.

12. Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chen iddo, ffieiddbeth fydd i chwi.

13. A'r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o'r adar; na fwytewch hwynt, ffieidd‐dra ydynt: sef yr eryr, a'r wyddwalch, a'r fôr‐wennol;

14. A'r fwltur, a'r barcud yn ei ryw;

15. Pob cigfran yn ei rhyw;

16. A chyw'r estrys, a'r frân nos, a'r gog, a'r gwalch yn ei ryw;

17. Ac aderyn y cyrff, a'r fulfran, a'r dylluan,

18. A'r gogfran, a'r pelican, a'r biogen,

19. A'r ciconia, a'r crŷr yn ei ryw, a'r gornchwigl, a'r ystlum.

20. Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd‐dra yw i chwi.

21. Ond hyn a fwytewch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear;

22. O'r rhai hynny y rhai hyn a fwytewch: y locust yn ei ryw, a'r selam yn ei ryw, a'r hargol yn ei ryw, a'r hagab yn ei ryw.

23. A phob ehediad arall a ymlusgo, yr hwn y mae pedwar troed iddo, ffieidd‐dra fydd i chwi.

24. Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â'u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.

25. A phwy bynnag a ddygo ddim o'u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr.

26. Am bob anifail fydd yn hollti'r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil, aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt.

27. Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau, o bob anifail a gerddo ar bedwar troed, aflan ydynt i chwi: pob un a gyffyrddo â'u burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 11