Hen Destament

Testament Newydd

Josua 8:7-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Yna chwi a godwch o'r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr Arglwydd eich Duw a'i dyry hi yn eich llaw chwi.

8. A phan enilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ôl gair yr Arglwydd. Gwelwch, mi a orchmynnais i chwi.

9. Felly Josua a'u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arosasant rhwng Bethel ac Ai, o du'r gorllewin i Ai: a Josua a letyodd y noson honno ymysg y bobl.

10. A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fyny, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tuag at Ai.

11. A'r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gydag ef, a aethant i fyny, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â'r ddinas, a gwersyllasant o du'r gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai.

12. Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr, ac a'u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du'r gorllewin i'r ddinas.

13. A'r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du'r gogledd i'r ddinas, a'r cynllwynwyr o du'r gorllewin i'r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.

14. A phan welodd brenin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a foregodasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a'i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o'r tu cefn i'r ddinas.

15. A Josua a holl Israel, fel pe trawsid hwy o'u blaen hwynt, a ffoesant ar hyd yr anialwch.

16. A'r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hôl hwynt: a hwy a erlidiasant ar ôl Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas.

17. Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac yn Bethel, a'r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel.

18. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua'r ddinas.

19. A'r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o'u lle, ac a redasant, pan estynnodd efe ei law: daethant hefyd i'r ddinas, ac enillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 8