Hen Destament

Testament Newydd

Josua 6:7-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a'r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr Arglwydd.

8. A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr Arglwydd, ac a leisiasant â'r utgyrn: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hôl hwynt.

9. A'r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â'r utgyrn; a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r utgyrn.

10. A Josua a orchmynasai i'r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o'ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch.

11. Felly arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas, gan fyned o'i hamgylch un waith: a daethant i'r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll.

12. A Josua a gyfododd yn fore; a'r offeiriaid a ddygasant arch yr Arglwydd.

13. A'r saith offeiriad, yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â'r utgyrn: a'r rhai arfog oedd yn myned o'u blaen hwynt: a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr Arglwydd, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r utgyrn.

14. Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i'r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod.

15. Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith.

16. A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi.

17. A'r ddinas fydd yn ddiofryd‐beth, hi, a'r hyn oll sydd ynddi, i'r Arglwydd: yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.

18. Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y diofryd‐beth, rhag eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd‐beth, os cymerwch o'r diofryd‐beth; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddiofryd‐beth, ac y trallodech hi.

19. Ond yr holl arian a'r aur, a'r llestri pres a haearn, fyddant gysegredig i'r Arglwydd: deled y rhai hynny i mewn i drysor yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 6