5. A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys yfory y gwna'r Arglwydd ryfeddodau yn eich mysg chwi.
6. Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfamod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfamod, ac a aethant o flaen y bobl.
7. A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau.
8. Am hynny gorchymyn di i'r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfamod, gan ddywedyd, Pan ddeloch hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.
9. A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Nesewch yma, a gwrandewch eiriau yr Arglwydd eich Duw.
10. Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyr efe allan y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Hefiaid, a'r Pheresiaid, a'r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a'r Jebusiaid, o'ch blaen chwi.
11. Wele arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o'ch blaen chwi i'r Iorddonen.
12. Gan hynny cymerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel, un gŵr o bob llwyth.
13. A phan orffwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch Arglwydd IOR yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr.