Hen Destament

Testament Newydd

Josua 23:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Darfu, ar ôl dyddiau lawer, wedi i'r Arglwydd roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau.

2. A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus:

3. Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r holl genhedloedd hyn, er eich mwyn chwi: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch.

4. Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i'ch llwythau chwi, o'r Iorddonen, a'r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tua'r gorllewin.

5. A'r Arglwydd eich Duw a'u hymlid hwynt o'ch blaen chwi, ac a'u gyr hwynt ymaith allan o'ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych.

6. Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tua'r llaw ddeau na thua'r llaw aswy;

7. Ac na chydymgyfeilloch â'r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymoch iddynt:

8. Ond glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.

9. Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o'ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac amdanoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.

10. Un gŵr ohonoch a erlid fil: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych.

11. Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr Arglwydd eich Duw.

12. Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn atynt hwy, a hwythau atoch chwithau:

Darllenwch bennod gyflawn Josua 23