4. A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid: ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad, y rhai oedd o'r Lefiaid, allan o lwyth Jwda, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Benjamin, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.
5. Ac i'r rhan arall o feibion Cohath yr oedd, o deuluoedd llwyth Effraim, ac o lwyth Dan, ac o hanner llwyth Manasse, ddeg dinas, wrth goelbren.
6. Ac i feibion Gerson yr oedd, o deuluoedd llwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o hanner llwyth Manasse yn Basan, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.
7. I feibion Merari, wrth eu teuluoedd, yr oedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, ddeuddeg o ddinasoedd.
8. A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid y dinasoedd hyn, a'u meysydd pentrefol, fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses, wrth goelbren.
9. A hwy a roddasant, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, y dinasoedd hyn a enwir erbyn eu henwau;
10. Fel y byddent i feibion Aaron, o deuluoedd y Cohathiaid, o feibion Lefi: canys iddynt hwy yr oedd y coelbren cyntaf.
11. A rhoddasant iddynt Gaer‐Arba, tad Anac, honno yw Hebron, ym mynydd‐dir Jwda, a'i meysydd pentrefol oddi amgylch.
12. Ond maes y ddinas, a'i phentrefydd, a roddasant i Caleb mab Jeffunne, yn etifeddiaeth iddo ef.
13. Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a'i meysydd pentrefol, yn ddinas nodded i'r llofrudd; a Libna a'i meysydd pentrefol,
14. A Jattir a'i meysydd pentrefol, ac Estemoa a'i meysydd pentrefol,
15. A Holon a'i meysydd pentrefol, a Debir a'i meysydd pentrefol,