Hen Destament

Testament Newydd

Josua 21:31-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Helcath a'i meysydd pentrefol, a Rehob a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.

32. Ac o lwyth Nafftali, yn ddinas nodded y lleiddiad, Cedes yn Galilea a'i meysydd pentrefol, a Hammoth‐dor a'i meysydd pentrefol: tair dinas.

33. Holl ddinasoedd y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, oedd dair dinas ar ddeg, a'u meysydd pentrefol.

34. Ac i deuluoedd meibion Merari, y rhan arall o'r Lefiaid, y rhoddasid, o lwyth Sabulon, Jocnean a'i meysydd pentrefol, a Carta a'i meysydd pentrefol,

35. Dimna a'i meysydd pentrefol, Nahalal a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.

36. Ac o lwyth Reuben, Beser a'i meysydd pentrefol, a Jahasa a'i meysydd pentrefol,

37. Cedemoth a'i meysydd pentrefol, Meffaath a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.

38. Ac o lwyth Gad, yn ddinas noddfa y llofrudd, Ramoth yn Gilead a'i meysydd pentrefol, a Mahanaim a'i meysydd pentrefol,

39. Hesbon a'i meysydd pentrefol, Jaser a'i meysydd pentrefol; pedair dinas o gwbl.

40. Holl ddinasoedd meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd, sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid, oedd, wrth eu coelbren, ddeuddeng ninas.

41. Holl ddinasoedd y Lefiaid, ym meddiant meibion Israel, oedd wyth ddinas a deugain, a'u meysydd pentrefol.

42. Y dinasoedd hyn oedd bob un â'u meysydd pentrefol o'u hamgylch. Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn.

43. A'r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a'i meddianasant hi, ac a wladychasant ynddi.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 21