30. Ac o lwyth Aser, Misal a'i meysydd pentrefol, Abdon a'i meysydd pentrefol,
31. Helcath a'i meysydd pentrefol, a Rehob a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.
32. Ac o lwyth Nafftali, yn ddinas nodded y lleiddiad, Cedes yn Galilea a'i meysydd pentrefol, a Hammoth‐dor a'i meysydd pentrefol: tair dinas.
33. Holl ddinasoedd y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, oedd dair dinas ar ddeg, a'u meysydd pentrefol.
34. Ac i deuluoedd meibion Merari, y rhan arall o'r Lefiaid, y rhoddasid, o lwyth Sabulon, Jocnean a'i meysydd pentrefol, a Carta a'i meysydd pentrefol,
35. Dimna a'i meysydd pentrefol, Nahalal a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.
36. Ac o lwyth Reuben, Beser a'i meysydd pentrefol, a Jahasa a'i meysydd pentrefol,
37. Cedemoth a'i meysydd pentrefol, Meffaath a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.
38. Ac o lwyth Gad, yn ddinas noddfa y llofrudd, Ramoth yn Gilead a'i meysydd pentrefol, a Mahanaim a'i meysydd pentrefol,
39. Hesbon a'i meysydd pentrefol, Jaser a'i meysydd pentrefol; pedair dinas o gwbl.
40. Holl ddinasoedd meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd, sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid, oedd, wrth eu coelbren, ddeuddeng ninas.
41. Holl ddinasoedd y Lefiaid, ym meddiant meibion Israel, oedd wyth ddinas a deugain, a'u meysydd pentrefol.
42. Y dinasoedd hyn oedd bob un â'u meysydd pentrefol o'u hamgylch. Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn.
43. A'r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a'i meddianasant hi, ac a wladychasant ynddi.
44. Yr Arglwydd hefyd a roddodd lonyddwch iddynt hwy o amgylch, yn ôl yr hyn oll a dyngasai efe wrth eu tadau hwynt; ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o'u holl elynion; eu holl elynion a roddodd yr Arglwydd yn eu dwylo hwynt.
45. Ni phallodd dim o'r holl bethau da a lefarasai yr Arglwydd wrth dŷ Israel: daeth y cwbl i ben.