20. A chan deuluoedd meibion Cohath, y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Effraim.
21. A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a'i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim, a Geser a'i meysydd pentrefol,
22. A Cibsaim a'i meysydd pentrefol, a Beth‐horon a'i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.
23. Ac o lwyth Dan, Eltece a'i meysydd pentrefol, Gibbethon a'i meysydd pentrefol.
24. Ajalon a'i meysydd pentrefol, Gath‐Rimmon a'i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.
25. Ac o hanner llwyth Manasse, Tanac a'i meysydd pentrefol, a Gath‐Rimmon a'i meysydd pentrefol: dwy ddinas.