8. A'r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchmynnodd i'r rhai oedd yn myned i rannu'r wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy'r wlad, a dosberthwch hi, a dychwelwch ataf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr Arglwydd yn Seilo.
9. A'r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy'r wlad, ac a'i dosbarthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i'r gwersyll yn Seilo.
10. A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy gerbron yr Arglwydd yn Seilo: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ôl eu rhannau.
11. A choelbren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fyny yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Jwda a meibion Joseff.
12. A'r terfyn oedd iddynt hwy tua'r gogledd o'r Iorddonen: y terfyn hefyd oedd yn myned i fyny gan ystlys Jericho, o du'r gogledd, ac yn myned i fyny trwy'r mynydd tua'r gorllewin: a'i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Bethafen.
13. Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Lus, gan ystlys Lus, honno yw Bethel, tua'r deau; a'r terfyn sydd yn disgyn i Ataroth‐adar, i'r mynydd sydd o du'r deau i Beth‐horon isaf.
14. A'r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tua'r deau, o'r mynydd sydd ar gyfer Beth‐horon tua'r deau; a'i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath‐baal, honno yw Ciriath‐jearim, dinas meibion Jwda. Dyma du y gorllewin.
15. A thu y deau sydd o gwr Ciriath‐jearim; a'r terfyn sydd yn myned tua'r gorllewin, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa.