Hen Destament

Testament Newydd

Josua 10:22-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pum brenin hynny ataf fi o'r ogof.

23. A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pum brenin ato ef o'r ogof; sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon.

24. A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gydag ef, Nesewch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt.

25. A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; eithr ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr Arglwydd i'ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i'w herbyn.

26. Ac wedi hyn Josua a'u trawodd hwynt, ac a'u rhoddodd i farwolaeth, ac a'u crogodd hwynt ar bum pren: a buant ynghrog ar y prennau hyd yr hwyr.

27. Ac ym mhryd machludo haul, y gorchmynnodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a'u bwrw hwynt i'r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion yng ngenau yr ogof, y rhai sydd yno hyd gorff y dydd hwn.

28. Josua hefyd a enillodd Macceda y dwthwn hwnnw, ac a'i trawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenin hi, hwynt‐hwy, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un gweddill: canys efe a wnaeth i frenin Macceda, fel y gwnaethai i frenin Jericho.

29. Yna yr aeth Josua a holl Israel gydag ef o Macceda i Libna, ac a ymladdodd yn erbyn Libna.

30. A'r Arglwydd a'i rhoddodd hithau, a'i brenin, yn llaw Israel; ac yntau a'i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a'r oedd ynddi; ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i'w brenin hi fel y gwnaethai i frenin Jericho.

31. A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Libna i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i'w herbyn.

32. A'r Arglwydd a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a'i henillodd hi yr ail ddydd, ac a'i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag oedd ynddi, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Libna.

33. Yna Horam brenin Geser a ddaeth i fyny i gynorthwyo Lachis: a Josua a'i trawodd ef a'i bobl, fel na adawyd iddo ef un yng ngweddill.

34. A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Lachis i Eglon: a hwy a wersyllasant wrthi, ac a ymladdasant i'w herbyn.

35. A hwy a'i henillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a'i trawsant hi â min y cleddyf; ac efe a ddifrododd bob enaid a'r oedd ynddi y dwthwn hwnnw, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 10