Hen Destament

Testament Newydd

Josua 1:8-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o'th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.

9. Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych.

10. Yna Josua a orchmynnodd i lywodraethwyr y bobl, gan ddywedyd,

11. Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchmynnwch i'r bobl, gan ddywedyd, Paratowch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu'r wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi i chwi i'w meddiannu.

12. Wrth y Reubeniaid hefyd, ac wrth y Gadiaid, ac wrth hanner llwyth Manasse, y llefarodd Josua, gan ddywedyd,

13. Cofiwch y gair a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a esmwythaodd arnoch, ac a roddodd i chwi y wlad hon.

14. Eich gwragedd, eich plant, a'ch anifeiliaid, a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o'r tu yma i'r Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl ydych gedyrn o nerth, a chynorthwywch hwynt;

15. Nes rhoddi o'r Arglwydd lonyddwch i'ch brodyr, fel i chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth, a meddiennwch hi, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, o'r tu yma i'r Iorddonen, tua chodiad yr haul.

16. Hwythau a atebasant Josua, gan ddywedyd, Ni a wnawn yr hyn oll a orchmynnaist i ni; awn hefyd i ba le bynnag yr anfonych ni.

17. Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth, felly y gwrandawn arnat tithau: yn unig bydded yr Arglwydd dy Dduw gyda thi, megis y bu gyda Moses.

18. Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchmynnych iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn unig ymgryfha, ac ymwrola.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 1