Hen Destament

Testament Newydd

Joel 2:15-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Cenwch utgorn yn Seion, cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa:

16. Cesglwch y bobl; cysegrwch y gynulleidfa: cynullwch yr henuriaid; cesglwch y plant, a'r rhai yn sugno bronnau: deued y priodfab allan o'i ystafell, a'r briodferch allan o ystafell ei gwely.

17. Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r cenhedloedd arnynt: paham y dywedent ymhlith y bobloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt?

18. Yna yr Arglwydd a eiddigedda am ei dir, ac a arbed ei bobl.

19. A'r Arglwydd a etyb, ac a ddywed wrth ei bobl, Wele fi yn anfon i chwi ŷd, a gwin, ac olew; a diwellir chwi ohono: ac ni wnaf chwi mwyach yn waradwydd ymysg y cenhedloedd.

20. Eithr bwriaf yn bell oddi wrthych y gogleddlu, a gyrraf ef i dir sych diffaith, a'i wyneb tua môr y dwyrain, a'i ben ôl tua'r môr eithaf: a'i ddrewi a gyfyd, a'i ddrycsawr a â i fyny, am iddo wneuthur mawrhydri.

21. Nac ofna di, ddaear; gorfoledda a llawenycha: canys yr Arglwydd a wna fawredd.

22. Nac ofnwch, anifeiliaid y maes: canys tarddu y mae porfeydd yr anialwch; canys y pren a ddwg ei ffrwyth, y ffigysbren a'r winwydden a roddant eu cnwd.

23. Chwithau, plant Seion, gorfoleddwch, ac ymlawenhewch yn yr Arglwydd eich Duw: canys efe a roddes i chwi y cynnar law yn gymedrol, ac a wna i'r cynnar law a'r diweddar law ddisgyn i chwi yn y mis cyntaf.

24. A'r ysguboriau a lenwir o ŷd, a'r gwin newydd a'r olew a â dros y llestri.

25. A mi a dalaf i chwi y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn, pryf y rhwd, a'r locust, a'r lindys, fy llu mawr i, yr hwn a anfonais yn eich plith.

26. Yna y bwytewch, gan fwyta ac ymddigoni; ac y moliennwch enw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd: ac ni waradwyddir fy mhobl byth.

Darllenwch bennod gyflawn Joel 2