Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

Joel 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cenwch yr utgorn yn Seion, a bloeddiwch ar fynydd fy sancteiddrwydd: dychryned holl breswylwyr y wlad; canys daeth dydd yr Arglwydd, canys y mae yn agos.

2. Diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwlog, fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd: pobl fawr a chryfion, ni bu eu bath erioed, ac ni bydd eilwaith ar eu hôl, hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth.

3. O'u blaen y difa y tân, ac ar eu hôl y fflam; mae y wlad o'u blaen fel gardd baradwys, ac ar eu hôl yn ddiffeithwch anrheithiedig; a hefyd ni ddianc dim ganddynt.

4. Yr olwg arnynt sydd megis golwg o feirch; ac fel marchogion, felly y rhedant.

5. Megis sŵn cerbydau ar bennau y mynyddoedd y llamant, fel sŵn tân ysol yn difa y sofl, ac fel pobl gryfion wedi ymosod i ryfel.

6. O'u blaen yr ofna y bobl; pob wyneb a gasgl barddu.

7. Rhedant fel glewion, dringant y mur fel rhyfelwyr, a cherddant bob un yn ei ffordd ei hun, ac ni wyrant oddi ar eu llwybrau.

8. Ni wthiant y naill y llall; cerddant bob un ei lwybr ei hun: ac er eu syrthio ar y cleddyf, nid archollir hwynt.

9. Gwibiant ar hyd y ddinas; rhedant ar y mur, dringant i'r tai; ânt i mewn trwy y ffenestri fel lleidr.

10. O'u blaen y crŷn y ddaear, y nefoedd a gynhyrfir; yr haul a'r lleuad a dywyllir, a'r sêr a ataliant eu llewyrch.

11. A'r Arglwydd a rydd ei lef o flaen ei lu: canys mawr iawn yw ei wersyll ef: canys cryf yw yr hwn sydd yn gwneuthur ei air ef: oherwydd mawr yw dydd yr Arglwydd, ac ofnadwy iawn; a phwy a'i herys?

12. Ond yr awr hon, medd yr Arglwydd, Dychwelwch ataf fi â'ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag wylofain, ac â galar.

13. A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: oherwydd graslon a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.

14. Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gweddill bendith ar ei ôl, sef bwyd-offrwm a diod-offrwm i'r Arglwydd eich Duw?

15. Cenwch utgorn yn Seion, cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa:

16. Cesglwch y bobl; cysegrwch y gynulleidfa: cynullwch yr henuriaid; cesglwch y plant, a'r rhai yn sugno bronnau: deued y priodfab allan o'i ystafell, a'r briodferch allan o ystafell ei gwely.

17. Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r cenhedloedd arnynt: paham y dywedent ymhlith y bobloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt?

18. Yna yr Arglwydd a eiddigedda am ei dir, ac a arbed ei bobl.

19. A'r Arglwydd a etyb, ac a ddywed wrth ei bobl, Wele fi yn anfon i chwi ŷd, a gwin, ac olew; a diwellir chwi ohono: ac ni wnaf chwi mwyach yn waradwydd ymysg y cenhedloedd.

20. Eithr bwriaf yn bell oddi wrthych y gogleddlu, a gyrraf ef i dir sych diffaith, a'i wyneb tua môr y dwyrain, a'i ben ôl tua'r môr eithaf: a'i ddrewi a gyfyd, a'i ddrycsawr a â i fyny, am iddo wneuthur mawrhydri.

21. Nac ofna di, ddaear; gorfoledda a llawenycha: canys yr Arglwydd a wna fawredd.

22. Nac ofnwch, anifeiliaid y maes: canys tarddu y mae porfeydd yr anialwch; canys y pren a ddwg ei ffrwyth, y ffigysbren a'r winwydden a roddant eu cnwd.

23. Chwithau, plant Seion, gorfoleddwch, ac ymlawenhewch yn yr Arglwydd eich Duw: canys efe a roddes i chwi y cynnar law yn gymedrol, ac a wna i'r cynnar law a'r diweddar law ddisgyn i chwi yn y mis cyntaf.

24. A'r ysguboriau a lenwir o ŷd, a'r gwin newydd a'r olew a â dros y llestri.

25. A mi a dalaf i chwi y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn, pryf y rhwd, a'r locust, a'r lindys, fy llu mawr i, yr hwn a anfonais yn eich plith.

26. Yna y bwytewch, gan fwyta ac ymddigoni; ac y moliennwch enw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd: ac ni waradwyddir fy mhobl byth.

27. A chewch wybod fy mod i yng nghanol Israel, ac mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, ac nid neb arall: a'm pobl nis gwaradwyddir byth.

28. A bydd ar ôl hynny, y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd; a'ch meibion a'ch merched a broffwydant, eich henuriaid a welant freuddwydion, eich gwŷr ieuainc a welant weledigaethau:

29. Ac ar y gweision hefyd ac ar y morynion y tywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.

30. A gwnaf ryfeddodau yn y nefoedd; ac yn y ddaear, gwaed, a thân, a cholofnau mwg.

31. Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lleuad yn waed, o flaen dyfod mawr ac ofnadwy ddydd yr Arglwydd.

32. A bydd, yr achubir pob un a alwo ar enw yr Arglwydd: canys bydd ymwared, fel y dywedodd yr Arglwydd, ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, ac yn y gweddillion a alwo yr Arglwydd.