1. Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Joel mab Pethuel.
2. Gwrandewch hyn, chwi henuriaid; a rhoddwch glust, holl drigolion y wlad: a fu hyn yn eich dyddiau, neu yn nyddiau eich tadau?
3. Mynegwch hyn i'ch plant, a'ch plant i'w plant hwythau, a'u plant hwythau i genhedlaeth arall.
4. Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd, a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust.
5. Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min.
6. Oherwydd cenhedlaeth gref annifeiriol a ddaeth i fyny ar fy nhir; dannedd llew yw ei dannedd, a childdannedd hen lew sydd iddi.
7. Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod, a'm ffigysbren a ddirisglodd: gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymaith: ei changau a wynasant.
8. Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid.
9. Torrwyd oddi wrth dŷ yr Arglwydd yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod: y mae yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, yn galaru.
10. Difrodwyd y maes, y ddaear a alara; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd: sychodd y gwin newydd, llesgaodd yr olew.
11. Cywilyddiwch, y llafurwyr; udwch, y gwinwyddwyr, am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaeaf y maes.
12. Gwywodd y winwydden, llesgaodd y ffigysbren, y pren pomgranad, y balmwydden hefyd, a'r afallen, a holl brennau y maes, a wywasant; am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion.
13. Ymwregyswch a griddfenwch, chwi offeiriaid; udwch, weinidogion yr allor; deuwch, weinidogion fy Nuw, gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain: canys atelir oddi wrth dŷ eich Duw yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod.
14. Cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa, cesglwch yr henuriaid, a holl drigolion y wlad, i dŷ yr Arglwydd eich Duw, a gwaeddwch ar yr Arglwydd;
15. Och o'r diwrnod! canys dydd yr Arglwydd sydd yn agos, ac fel difrod oddi wrth yr Hollalluog y daw.
16. Oni thorrwyd yng ngŵydd ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein Duw, y bwyd, y llawenydd, a'r digrifwch?
17. Pydrodd yr hadau dan eu priddellau, yr ysguboriau a anrheithiwyd, yr ydlannau a fwriwyd i lawr; canys yr ŷd a wywodd.
18. O o'r griddfan y mae yr anifeiliaid! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwartheg, am nad oes borfa iddynt; y diadellau defaid hefyd a anrheithiwyd.
19. Arnat ti, Arglwydd, y llefaf; canys y tân a ddifaodd borfeydd yr anialwch, y fflam a oddeithiodd holl brennau y maes.
20. Anifeiliaid y maes hefyd sydd yn brefu arnat; canys sychodd y ffrydiau dwfr, a'r tân a ysodd borfeydd yr anialwch.