4. Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd, a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust.
5. Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min.
6. Oherwydd cenhedlaeth gref annifeiriol a ddaeth i fyny ar fy nhir; dannedd llew yw ei dannedd, a childdannedd hen lew sydd iddi.
7. Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod, a'm ffigysbren a ddirisglodd: gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymaith: ei changau a wynasant.
8. Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid.
9. Torrwyd oddi wrth dŷ yr Arglwydd yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod: y mae yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, yn galaru.
10. Difrodwyd y maes, y ddaear a alara; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd: sychodd y gwin newydd, llesgaodd yr olew.
11. Cywilyddiwch, y llafurwyr; udwch, y gwinwyddwyr, am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaeaf y maes.
12. Gwywodd y winwydden, llesgaodd y ffigysbren, y pren pomgranad, y balmwydden hefyd, a'r afallen, a holl brennau y maes, a wywasant; am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion.