13. Ymwregyswch a griddfenwch, chwi offeiriaid; udwch, weinidogion yr allor; deuwch, weinidogion fy Nuw, gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain: canys atelir oddi wrth dŷ eich Duw yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod.
14. Cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa, cesglwch yr henuriaid, a holl drigolion y wlad, i dŷ yr Arglwydd eich Duw, a gwaeddwch ar yr Arglwydd;
15. Och o'r diwrnod! canys dydd yr Arglwydd sydd yn agos, ac fel difrod oddi wrth yr Hollalluog y daw.
16. Oni thorrwyd yng ngŵydd ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein Duw, y bwyd, y llawenydd, a'r digrifwch?
17. Pydrodd yr hadau dan eu priddellau, yr ysguboriau a anrheithiwyd, yr ydlannau a fwriwyd i lawr; canys yr ŷd a wywodd.
18. O o'r griddfan y mae yr anifeiliaid! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwartheg, am nad oes borfa iddynt; y diadellau defaid hefyd a anrheithiwyd.
19. Arnat ti, Arglwydd, y llefaf; canys y tân a ddifaodd borfeydd yr anialwch, y fflam a oddeithiodd holl brennau y maes.
20. Anifeiliaid y maes hefyd sydd yn brefu arnat; canys sychodd y ffrydiau dwfr, a'r tân a ysodd borfeydd yr anialwch.