18. Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a'i lygaid ef sydd fel amrantau y bore.
19. Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o'i enau ef.
20. Mwg a ddaw allan o'i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig.
21. Ei anadl a wna i'r glo losgi, a fflam a ddaw allan o'i enau.
22. Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o'i flaen ef.
23. Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo.
24. Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o'r maen isaf i felin.
25. Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt.
26. Cleddyf yr hwn a'i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na'r llurig.
27. Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr.
28. Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl.
29. Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon.
30. Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai.
31. Efe a wna i'r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint.
32. Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn.
33. Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn.
34. Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.