1. Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd,
2. Ai dysgeidiaeth yw ymryson â'r Hollalluog? a argyhoeddo Dduw, atebed i hynny.
3. A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd,
4. Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau.
5. Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.
6. A'r Arglwydd a atebodd Job allan o'r corwynt, ac a ddywedodd,
7. Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi.
8. A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i'th gyfiawnhau dy hun?
9. A oes i ti fraich fel i Dduw? neu a wnei di daranau â'th lais fel yntau?
10. Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch.
11. Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr.
12. Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle.
13. Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig.
14. Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheulaw dy achub.