12. A goeli di ef, y dwg efe dy had di drachefn, ac y casgl efe ef i'th lawr dyrnu di?
13. A roddaist ti adenydd hyfryd i'r peunod? neu adenydd a phlu i'r estrys?
14. Yr hon a ad ei hwyau yn y ddaear, ac a'u cynhesa yn y llwch;
15. Ac y mae hi yn gollwng dros gof y gallai droed eu dryllio hwynt, neu anifail y maes eu sathru.
16. Caled yw hi wrth ei chywion, fel pe na byddent eiddi hi: ei gwaith hi sydd ofer, heb ofn;
17. Oblegid na roddes Duw iddi ddoethineb, ac na chyfrannodd iddi ddeall.
18. Yr amser yr ymgodo hi yn uchel, hi a ddiystyra y march a'i farchog.
19. A roddaist ti gryfder i farch? neu a ddysgaist iddo weryru?
20. A ddychryni di ef fel ceiliog rhedyn? dychryn ydyw ardderchowgrwydd ei ffroen ef.
21. Ei draed ef a gloddiant yn y dyffryn, ac efe a lawenycha yn ei gryfder: efe a â allan i gyfarfod arfau.
22. Efe a ddiystyra arswyd, ac ni ddychryna efe; ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y cleddyf.
23. Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn, y ddisglair waywffon a'r darian.