5. Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi?
6. Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi,
7. Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw?
8. A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o'r groth?
9. Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo,
10. Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau,
11. Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di.
12. A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i'r wawrddydd ei lle,
13. I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi?
14. Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad.
15. Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig.