Hen Destament

Testament Newydd

Job 38:19-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch,

20. Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i'w dŷ ef?

21. A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr?

22. A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg,

23. Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel?

24. Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear?

25. Pwy a rannodd ddyfrlle i'r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau,

26. I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo?

27. I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu?

28. A oes dad i'r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith?

29. O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd?

30. Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder a rewodd.

31. A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion?

32. A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a'i feibion?

33. A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?

34. A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi?

35. A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni?

Darllenwch bennod gyflawn Job 38