10. Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau,
11. Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di.
12. A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i'r wawrddydd ei lle,
13. I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi?
14. Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad.
15. Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig.
16. A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder?
17. A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau?
18. A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd.
19. Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch,
20. Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i'w dŷ ef?
21. A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr?
22. A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg,
23. Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel?
24. Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear?