11. Paham na bûm farw o'r bru? na threngais pan ddeuthum allan o'r groth?
12. Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno?
13. Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi.
14. Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd;
15. Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian;
16. Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni.
17. Yno yr annuwiolion a beidiant â'u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig.
18. Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; ni chlywant lais y gorthrymydd.
19. Bychan a mawr sydd yno; a'r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr.
20. Paham y rhoddir goleuni i'r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i'r gofidus ei enaid?
21. Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig?
22. Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd?
23. Paham y rhoddir goleuni i'r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd Duw arno?