1. Yna Job a barablodd drachefn, ac a ddywedodd,
2. O na bawn i fel yn y misoedd o'r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi;
3. Pan wnâi efe i'w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch;
4. Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch Duw ar fy mhabell;
5. Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a'm plant o'm hamgylch;
6. Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew!
7. Pan awn i allan i'r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol,
8. Llanciau a'm gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny.
9. Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau.
10. Pendefigion a dawent â sôn, a'u tafod a lynai wrth daflod eu genau.
11. Pan y'm clywai clust, hi a'm bendithiai; a phan y'm gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi:
12. Am fy mod yn gwaredu'r tlawd a fyddai yn gweiddi, a'r amddifad, a'r hwn ni byddai gynorthwywr iddo.
13. Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.
14. Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a'm barn fyddai fel mantell a choron.
15. Llygaid oeddwn i'r dall; a thraed oeddwn i'r cloff.