Hen Destament

Testament Newydd

Job 28:8-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Yr hwn ni sathrodd cenawon llew; nid aeth hen lew trwyddo.

9. Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o'r gwraidd.

10. Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr.

11. Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni.

12. Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?

13. Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw.

14. Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi.

15. Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian.

16. Ni chyffelybir hi i'r aur o Offir; nac i'r onics gwerthfawr, nac i'r saffir.

17. Nid aur a grisial a'i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi.

18. Ni chofir y cwrel, na'r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau.

19. Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur.

20. Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall?

21. Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd.

22. Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â'n clustiau sôn amdani hi.

23. Duw sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi.

24. Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan yr holl nefoedd;

Darllenwch bennod gyflawn Job 28