Hen Destament

Testament Newydd

Job 26:4-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti?

5. Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd, a'r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy.

6. Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes do ar ddistryw.

7. Y mae efe yn taenu'r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi'r ddaear ar ddiddim.

8. Y mae efe yn rhwymo'r dyfroedd yn ei gymylau; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy.

9. Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc: y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi.

10. Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau, nes dibennu goleuni a thywyllwch.

11. Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef.

12. Efe a ranna y môr â'i nerth; ac a dery falchder â'i ddoethineb.

13. Efe a addurnodd y nefoedd â'i ysbryd: ei law ef a luniodd y sarff dorchog.

Darllenwch bennod gyflawn Job 26