1. Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,
2. Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf.
3. Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb.
4. Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear,
5. Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr?
6. Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i'r nefoedd, a chyrhaeddyd o'i ben ef hyd y cymylau;
7. Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a'i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe?
8. Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos.
9. Y llygad a'i gwelodd, ni wêl ef mwy: a'i le ni chenfydd mwy ohono.
10. Ei feibion a gais fodloni'r tlodion: a'i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt.
11. Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd.
12. Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod;
13. Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau:
14. Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o'i fewn ef.
15. Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a'i chwyda: Duw a'i tyn allan o'i fol ef.
16. Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a'i lladd ef.