Hen Destament

Testament Newydd

Job 14:1-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul.

2. Fel blodeuyn y daw allan, ac y torrir ef ymaith; ac efe â gilia fel cysgod, ac ni saif.

3. A agori di dy lygaid ar y fath yma? ac a ddygi di fi i farn gyda thi?

4. Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? neb.

5. Gan fod ei ddyddiau ef wedi eu rhagderfynu, rhifedi ei fisoedd ef gyda thi, a gosod ohonot ei derfynau, fel nad êl drostynt:

6. Tro oddi wrtho, fel y gorffwyso, hyd oni orffenno, fel gwas cyflog, ei ddiwrnod.

7. Canys y mae gobaith o bren, er ei dorri, y blagura efe eto, ac na phaid ei flagur ef â thyfu.

8. Er heneiddio ei wreiddyn ef yn y ddaear, a marweiddio ei foncyff ef yn y pridd;

9. Efe a flagura oddi wrth arogl dyfroedd, ac a fwrw ganghennau fel planhigyn.

10. Ond gŵr a fydd marw, ac a dorrir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae?

11. Fel y mae dyfroedd yn pallu o'r môr, a'r afon yn myned yn ddihysbydd, ac yn sychu:

12. Felly gŵr a orwedd, ac ni chyfyd hyd oni byddo heb nefoedd; ni ddihunant, ac ni ddeffroant o'u cwsg.

13. O na chuddit fi yn y bedd! na'm cedwit yn ddirgel, nes troi dy lid ymaith! na osodit amser nodedig i mi, a'm cofio!

14. Os bydd gŵr marw, a fydd efe byw drachefn? disgwyliaf holl ddyddiau fy milwriaeth, hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad.

15. Gelwi, a myfi a'th atebaf; chwenychi waith dy ddwylo.

16. Canys yr awr hon y rhifi fy nghamre: onid wyt yn gwylied ar fy mhechod?

17. Fy nghamwedd a selied mewn cod; a thi a wnïaist i fyny fy anwiredd.

18. Ac yn wir, y mynydd a syrthio a ddiflanna; a'r graig a symudir o'i lle.

Darllenwch bennod gyflawn Job 14