Hen Destament

Testament Newydd

Job 13:2-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Mi a wn yn gystal â chwithau: nid ydwyf waeth na chwithau.

3. Yn wir myfi a lefaraf wrth yr Hollalluog, ac yr ydwyf yn chwenychu ymresymu â Duw.

4. Ond rhai yn asio celwydd ydych chwi: meddygon diddim ydych chwi oll.

5. O gan dewi na thawech! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb.

6. Clywch, atolwg, fy rheswm, a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau.

7. A ddywedwch chwi anwiredd dros Dduw? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef?

8. A dderbyniwch chwi ei wyneb ef? a ymrysonwch chwi dros Dduw?

9. Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn?

10. Gan geryddu efe a'ch cerydda chwi, os derbyniwch wyneb yn ddirgel.

11. Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch?

12. Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi; a'ch cyrff i gyrff o glai.

13. Tewch, gadewch lonydd, fel y llefarwyf finnau; a deued arnaf yr hyn a ddelo.

14. Paham y cymeraf fy nghnawd â'm dannedd? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw?

Darllenwch bennod gyflawn Job 13