Hen Destament

Testament Newydd

Job 10:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.

2. Dywedaf wrth Dduw, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi.

3. Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?

4. Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di?

5. A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr,

6. Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod?

7. Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o'th law di.

8. Dy ddwylo di a'm gweithiasant, ac a'm cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt.

9. Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i'r pridd drachefn?

10. Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws?

11. Ti a'm gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a'm diffynnaist i ag esgyrn ac â giau.

12. Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a'th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd.

13. A'r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon: gwn fod hyn gyda thi.

14. Os pechaf, ti a'm gwyli, ac ni'm glanhei oddi wrth fy anwiredd.

15. Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd;

16. Canys cynyddu y mae: fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi.

Darllenwch bennod gyflawn Job 10