1. Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.
2. Dywedaf wrth Dduw, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi.
3. Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?
4. Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di?
5. A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr,
6. Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod?
7. Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o'th law di.
8. Dy ddwylo di a'm gweithiasant, ac a'm cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt.
9. Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i'r pridd drachefn?
10. Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws?
11. Ti a'm gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a'm diffynnaist i ag esgyrn ac â giau.