A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft, ac efe a'u llysg hwynt, ac a'u caethgluda hwynt; ac efe a ymwisg â gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad: ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch.