Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 42:14-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Gan ddywedyd, Nage: ond i wlad yr Aifft yr awn ni, lle ni welwn ryfel, ac ni chlywn sain utgorn, ac ni bydd arnom newyn bara, ac yno y trigwn ni:

15. Am hynny, O gweddill Jwda, gwrandewch yn awr air yr Arglwydd Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i'r Aifft, ac a ewch i ymdeithio yno,

16. Yna y bydd i'r cleddyf, yr hwn yr ydych yn ei ofni, eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft; a'r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo, a'ch dilyn chwi yn yr Aifft; ac yno y byddwch feirw.

17. Felly y bydd i'r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i'r Aifft, i aros yno, hwy a leddir â'r cleddyf, â newyn, ac â haint: ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill, neu yn ddihangol, gan y dialedd a ddygaf fi arnynt.

18. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Megis y tywalltwyd fy llid a'm digofaint ar breswylwyr Jerwsalem; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau, pan ddeloch i'r Aifft: a chwi a fyddwch yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth, ac ni chewch weled y lle hwn mwyach.

19. O gweddill Jwda, yr Arglwydd a ddywedodd amdanoch, Nac ewch i'r Aifft: gwybyddwch yn hysbys i mi eich rhybuddio chwi heddiw.

20. Canys rhagrithiasoch yn eich calonnau, wrth fy anfon i at yr Arglwydd eich Duw, gan ddywedyd, Gweddïa drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw, a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr Arglwydd ein Duw, a nyni a'i gwnawn.

21. A mi a'i mynegais i chwi heddiw, ond ni wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw, nac ar ddim oll a'r y danfonodd efe fi atoch o'i blegid.

22. Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys, mai trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint, y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 42