Jeremeia 42:17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Felly y bydd i'r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i'r Aifft, i aros yno, hwy a leddir â'r cleddyf, â newyn, ac â haint: ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill, neu yn ddihangol, gan y dialedd a ddygaf fi arnynt.