9. Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, ar y nawfed mis, y cyhoeddasant ympryd gerbron yr Arglwydd, i'r holl bobl yn Jerwsalem, ac i'r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.
10. Yna Baruch a ddarllenodd o'r llyfr eiriau Jeremeia, yn nhŷ yr Arglwydd, yn ystafell Gemareia mab Saffan yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf, wrth ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd, lle y clybu yr holl bobl.
11. Pan glybu Michaia mab Gemareia, mab Saffan, holl eiriau yr Arglwydd allan o'r llyfr,
12. Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin i ystafell yr ysgrifennydd: ac wele, yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd; sef Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia mab Semaia, ac Elnathan mab Achbor, a Gemareia mab Saffan, a Sedeceia mab Hananeia, a'r holl dywysogion.
13. A Michaia a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsai efe pan ddarllenasai Baruch y llyfr lle y clybu y bobl.
14. Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia, mab Selemeia, mab Cusi, at Baruch, gan ddywedyd, Cymer yn dy law y llyfr y darllenaist allan ohono lle y clybu y bobl, a thyred. Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt.
15. A hwy a ddywedasant wrtho, Eistedd yn awr, a darllen ef lle y clywom ni. Felly Baruch a'i darllenodd lle y clywsant hwy.
16. A phan glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda'i gilydd; a hwy a ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i'r brenin.
17. A hwy a ofynasant i Baruch, gan ddywedyd, Mynega i ni yn awr, Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o'i enau ef?
18. Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi â'i enau, a minnau a'u hysgrifennais hwynt yn y llyfr ag inc.
19. Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruch, Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi.
20. A hwy a aethant at y brenin i'r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd,) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin.
21. A'r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr. Ac efe a'i dug ef o ystafell Elisama yr ysgrifennydd. A Jehudi a'i darllenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.