Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin i ystafell yr ysgrifennydd: ac wele, yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd; sef Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia mab Semaia, ac Elnathan mab Achbor, a Gemareia mab Saffan, a Sedeceia mab Hananeia, a'r holl dywysogion.