2. Cymer i ti blyg llyfr, ac ysgrifenna ynddo yr holl eiriau a leferais i wrthyt yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, ac yn erbyn yr holl genhedloedd, o'r dydd y lleferais i wrthyt ti, er dyddiau Joseia hyd y dydd hwn.
3. Fe allai pan glywo tŷ Jwda yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn amcanu ei wneuthur iddynt, y dychwelant bob un o'i ffordd ddrygionus, fel y maddeuwyf eu hanwiredd a'u pechod.
4. Yna Jeremeia a alwodd Baruch mab Nereia; a Baruch a ysgrifennodd o enau Jeremeia holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarasai efe wrtho, mewn plyg llyfr.
5. A Jeremeia a orchmynnodd i Baruch, gan ddywedyd, Caewyd arnaf fi, ni allaf fi fyned i dŷ yr Arglwydd.
6. Am hynny dos di, a darllen o'r llyfr a ysgrifennaist o'm genau, eiriau yr Arglwydd, lle y clywo y bobl, yn nhŷ yr Arglwydd, ar y dydd ympryd; a lle y clywo holl Jwda hefyd, y rhai a ddelont o'u dinasoedd, y darlleni di hwynt.
7. Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr Arglwydd, ac y dychwelant bob un o'i ffordd ddrygionus: canys mawr yw y llid a'r digofaint a draethodd yr Arglwydd yn erbyn y bobl hyn.
8. Felly Baruch mab Nereia a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jeremeia y proffwyd iddo, gan ddarllen o'r llyfr eiriau yr Arglwydd yn nhŷ yr Arglwydd.
9. Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, ar y nawfed mis, y cyhoeddasant ympryd gerbron yr Arglwydd, i'r holl bobl yn Jerwsalem, ac i'r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.
10. Yna Baruch a ddarllenodd o'r llyfr eiriau Jeremeia, yn nhŷ yr Arglwydd, yn ystafell Gemareia mab Saffan yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf, wrth ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd, lle y clybu yr holl bobl.
11. Pan glybu Michaia mab Gemareia, mab Saffan, holl eiriau yr Arglwydd allan o'r llyfr,
12. Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin i ystafell yr ysgrifennydd: ac wele, yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd; sef Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia mab Semaia, ac Elnathan mab Achbor, a Gemareia mab Saffan, a Sedeceia mab Hananeia, a'r holl dywysogion.
13. A Michaia a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsai efe pan ddarllenasai Baruch y llyfr lle y clybu y bobl.
14. Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia, mab Selemeia, mab Cusi, at Baruch, gan ddywedyd, Cymer yn dy law y llyfr y darllenaist allan ohono lle y clybu y bobl, a thyred. Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt.
15. A hwy a ddywedasant wrtho, Eistedd yn awr, a darllen ef lle y clywom ni. Felly Baruch a'i darllenodd lle y clywsant hwy.
16. A phan glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda'i gilydd; a hwy a ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i'r brenin.