Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 3:13-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Yn unig cydnebydd dy anwiredd, droseddu ohonot yn erbyn yr Arglwydd dy Dduw, a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog, ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr Arglwydd.

14. Trowch, chwi blant gwrthnysig, medd yr Arglwydd; canys myfi a'ch priodais chwi: a mi a'ch cymeraf chwi, un o ddinas, a dau o deulu, ac a'ch dygaf chwi i Seion:

15. Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a'ch porthant chwi â gwybodaeth, ac â deall.

16. Ac wedi darfod i chwi amlhau a chynyddu ar y ddaear, yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, ni ddywedant mwy, Arch cyfamod yr Arglwydd; ac ni feddwl calon amdani, ac ni chofir hi; nid ymwelant â hi chwaith, ac ni wneir hynny mwy.

17. Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr Arglwydd; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd, at enw yr Arglwydd, i Jerwsalem: ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus.

18. Yn y dyddiau hynny y rhodia tŷ Jwda gyda thŷ Israel, a hwy a ddeuant ynghyd, o dir y gogledd, i'r tir a roddais i yn etifeddiaeth i'ch tadau chwi.

19. Ond mi a ddywedais, Pa fodd y'th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymunol, sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.

20. Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill; felly, tŷ Israel, y buoch anffyddlon i mi, medd yr Arglwydd.

21. Llef a glywyd yn y mannau uchel, wylofain a dymuniadau meibion Israel: canys gwyrasant eu ffordd, ac anghofiasant yr Arglwydd eu Duw.

22. Ymchwelwch, feibion gwrthnysig, a mi a iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi. Wele ni yn dyfod atat ti; oblegid ti yw yr Arglwydd ein Duw.

23. Diau fod yn ofer ymddiried am help o'r bryniau, ac o liaws y mynyddoedd: diau fod iachawdwriaeth Israel yn yr Arglwydd ein Duw ni.

24. Canys gwarth a ysodd lafur ein tadau o'n hieuenctid; eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 3