Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 29:20-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Gan hynny gwrandewch air yr Arglwydd, chwi oll o'r gaethglud a anfonais o Jerwsalem i Babilon:

21. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, am Ahab mab Colaia, ac am Sedeceia mab Maaseia, y rhai sydd yn proffwydo celwydd i chwi yn fy enw i; Wele, myfi a'u rhoddaf hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a'u lladd hwynt yng ngŵydd eich llygaid chwi.

22. A holl gaethglud Jwda, yr hon sydd yn Babilon, a gymerant y rheg hon oddi wrthynt hwy, gan ddywedyd, Gwneled yr Arglwydd dydi fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon wrth y tân;

23. Am iddynt wneuthur ysgelerder yn Israel, a gwneuthur godineb gyda gwragedd eu cymdogion, a llefaru ohonynt eiriau celwyddog yn fy enw i, y rhai ni orchmynnais iddynt; a minnau yn gwybod, ac yn dyst, medd yr Arglwydd.

24. Ac wrth Semaia y Nehelamiad y lleferi, gan ddywedyd,

25. Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Am i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid, gan ddywedyd,

26. Yr Arglwydd a'th osododd di yn offeiriad yn lle Jehoiada yr offeiriad, i fod yn olygwr yn nhŷ yr Arglwydd, ar bob gŵr gorffwyllog, ac yn cymryd arno broffwydo, i'w roddi ef mewn carchar, a chyffion:

27. Ac yn awr paham na cheryddaist ti Jeremeia o Anathoth, yr hwn sydd yn proffwydo i chwi?

28. Canys am hynny yr anfonodd atom ni i Babilon, gan ddywedyd, Hir fydd y caethiwed hwn: adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

29. A Seffaneia yr offeiriad a ddarllenodd y llythyr hwn lle y clywodd Jeremeia y proffwyd.

30. Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd,

31. Anfon at yr holl gaethglud, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd am Semaia y Nehelamiad; Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi, a minnau heb ei anfon ef, a pheri ohono i chwi ymddiried mewn celwydd:

32. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele mi a ymwelaf â Semaia y Nehelamiad, ac â'i had ef: ni bydd iddo un a drigo ymysg y bobl hyn, ac ni chaiff efe weled y daioni a wnaf fi i'm pobl, medd yr Arglwydd; am iddo ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 29