Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, am Ahab mab Colaia, ac am Sedeceia mab Maaseia, y rhai sydd yn proffwydo celwydd i chwi yn fy enw i; Wele, myfi a'u rhoddaf hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a'u lladd hwynt yng ngŵydd eich llygaid chwi.