Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 29:13-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ceisiwch fi hefyd, a chwi a'm cewch, pan y'm ceisioch â'ch holl galon.

14. A mi a adawaf i chwi fy nghael, medd yr Arglwydd, a mi a ddychwelaf eich caethiwed, ac a'ch casglaf chwi o'r holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd y rhai y'ch gyrrais iddynt, medd yr Arglwydd; a mi a'ch dygaf chwi drachefn i'r lle y perais eich caethgludo chwi allan ohono.

15. Oherwydd i chwi ddywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd broffwydi i ni yn Babilon;

16. Gwybyddwch mai fel hyn y dywed yr Arglwydd am y brenin sydd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, ac am yr holl bobl sydd yn trigo yn y ddinas hon, ac am eich brodyr y rhai nid aethant allan gyda chwi i gaethglud;

17. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Wele fi yn anfon arnynt y cleddyf, a newyn, a haint, a mi a'u gwnaf hwynt fel y ffigys bryntion, y rhai ni ellir eu bwyta, rhag eu dryced.

18. A mi a'u herlidiaf hwynt â'r cleddyf, â newyn, ac â haint; ac mi a'u rhoddaf hwynt i'w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, yn felltith, ac yn chwithdra, ac yn chwibaniad, ac yn warth, ymysg yr holl genhedloedd lle y gyrrais i hwynt;

19. Am na wrandawsant ar fy ngeiriau, medd yr Arglwydd, y rhai a anfonais i atynt gyda'm gweision y proffwydi, gan gyfodi yn fore, a'u hanfon; ond ni wrandawech, medd yr Arglwydd.

20. Gan hynny gwrandewch air yr Arglwydd, chwi oll o'r gaethglud a anfonais o Jerwsalem i Babilon:

21. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, am Ahab mab Colaia, ac am Sedeceia mab Maaseia, y rhai sydd yn proffwydo celwydd i chwi yn fy enw i; Wele, myfi a'u rhoddaf hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a'u lladd hwynt yng ngŵydd eich llygaid chwi.

22. A holl gaethglud Jwda, yr hon sydd yn Babilon, a gymerant y rheg hon oddi wrthynt hwy, gan ddywedyd, Gwneled yr Arglwydd dydi fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon wrth y tân;

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 29