11. Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd.
12. Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o'r dechreuad, yw lle ein cysegr ni.
13. O Arglwydd, gobaith Israel, y rhai oll a'th wrthodant a waradwyddir, ysgrifennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr Arglwydd, ffynnon y dyfroedd byw.
14. Iachâ fi, O Arglwydd, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys tydi yw fy moliant.
15. Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Pa le y mae gair yr Arglwydd? deued bellach.
16. Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a'i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o'm gwefusau yn uniawn ger dy fron di.
17. Na fydd yn ddychryn i mi; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd.