Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 9:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Israel, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dy Dduw, gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd.

2. Y llawr dyrnu na'r gwinwryf nis portha hwynt, a'r gwin newydd a'i twylla hi.

3. Ni thrigant yng ngwlad yr Arglwydd; ond Effraim a ddychwel i'r Aifft, ac yn Asyria y bwytânt beth aflan.

4. Nid offrymant win i'r Arglwydd, a'u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr Arglwydd.

5. Beth a wnewch ar ddydd yr uchel ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr Arglwydd?

6. Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a'u casgl hwynt, Memffis a'u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll.

7. Dyddiau i ymweled a ddaethant, dyddiau talu'r pwyth a ddaethant; Israel a gânt wybod hyn: y proffwyd sydd ffôl, ynfyd yw y gŵr ysbrydol, am amlder dy anwiredd, a'r cas mawr.

8. Gwyliedydd Effraim a fu gyda'm Duw; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau, ac yn gasineb yn nhŷ ei Dduw.

9. Ymlygrasant yn ddwfn, megis yn amser Gibea: am hynny efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwêl â'u pechod.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 9