3. Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr Arglwydd: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a'r cynnar law i'r ddaear.
4. Beth a wnaf i ti, Effraim? beth a wnaf i ti, Jwda? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore, ac fel gwlith boreol.
5. Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau: a'th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan.
6. Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gwybodaeth o Dduw, yn fwy na phoethoffrymau.
7. A'r rhai hyn, fel dynion, a dorasant y cyfamod: yno y buant anffyddlon i'm herbyn.
8. Dinas gweithredwyr anwiredd yw Gilead, wedi ei halogi gan waed.
9. Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gŵr, felly y mae cynulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd yn gytûn: canys gwnânt ysgelerder.
10. Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll: yno y mae godineb Effraim; halogwyd Israel.
11. Gosododd hefyd gynhaeaf i tithau, Jwda, a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl.